LACA logo 2011 high_res (5)

 

 

Ymateb gan Gymdeithas Arlwywyr yr Awdurdodau Lleol (LACA) i Fil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru).

 

Cefndir Cymdeithas Arlwywyr yr Awdurdodau Lleol

Cafodd Cymdeithas Arlwywyr yr Awdurdodau Lleol ei sefydlu ym 1990. Dyma'r corff proffesiynol sy'n cynrychioli 750 o reolwyr arlwyo sy'n darparu gwasanaethau i holl sectorau'r awdurdodau lleol yn yr Alban, Cymru a Lloegr. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys: prydau yn y gymuned (‘Pryd ar Glud’); gwasanaethau arlwyo'r gwasanaethau cymdeithasol; gwasanaethau arlwyo i aelodau etholedig ac aelodau o staff; gwasanaethau arlwyo dinesig; a phrydau ysgol. Heb amheuaeth, mae'r rhan fwyaf o'r prydau a'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan yr aelodau yn brydau ysgol. Mae tua thair miliwn o brydau yn cael eu gweini bob dydd, a hynny mewn dros 23,000 o ysgolion gwladol. Mae'r trosiant blynyddol yn uwch na £360 miliwn. Mae tua 100,000 o aelodau o staff yn cael eu cyflogi gan y diwydiant. Mae Cymdeithas Arlwywyr yr Awdurdodau Lleol wedi cynrychioli a gweithio'n agos gydag Adrannau'r Llywodraeth yn Lloegr (yn enwedig yr Adran Addysg, yr Adran Iechyd a'r Ymddiriedolaeth Bwyd Ysgol) ers cryn amser, a chyda Llywodraeth Cymru. Mae Cymdeithas Arlwywyr yr Awdurdodau Lleol, hefyd, wedi gweithio ar nifer o gynlluniau ar y cyd â'r Asiantaeth Safonau Bwyd.

 

Mae aelodau o Gymdeithas Arlwywyr yr Awdurdodau Lleol yn gweithio mewn 20 o’r 22 awdurdod lleol sydd yng Nghymru. Wrth baratoi'r ymateb hwn, cafodd ymgynghoriad llawn ei chynnal gydag aelodau o Gymdeithas Arlwywyr yr Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

 

Ymateb Cymdeithas Arlwywyr yr Awdurdodau Lleol

 

Mae ein hymateb ni i Bapur Gwyn: Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) yn sôn am y canlynol yn unig:-

 

i.      Paragraff 5.3 – Y fenter brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd (tudalen 28);

ii.     Paragraff 5.5 – Codi taliadau hyblyg am brydau ysgol (tudalen 32).

 

5.3 Y fenter brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd

Y cynigion:

 

a.     Rhoi pŵer i gyrff llywodraethu ysgolion cynradd a gynhelir ofyn i'r awdurdod lleol ddarparu brecwast am ddim.

 

b.     Rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd a gynhelir mewn ymateb i gais gan yr ysgol, neu lle mae eisoes yn darparu brecwast am ddim, oni bai y byddai'n afresymol gwneud hynny.

 

c.     Rhoi pŵer i awdurdodau lleol dynnu'r gwasanaeth brecwast am ddim yn ôl mewn ysgolion unigol os bydd yr amgylchiadau'n newid a phe byddai'n afresymol parhau i'w ddarparu.

 

ch. Rhoi pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau mewn perthynas â   

    darparu brecwast am ddim.

 

d.     Rhoi pŵer i awdurdodau lleol benderfynu ar gynnwys y brecwast yn amodol ar gydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wnaed o dan Fesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009.

 

dd. Rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn i drosglwyddo dyletswydd

      yr awdurdod lleol i ddarparu brecwast am ddim i gorff llywodraethu ysgol    

      gynradd a gynhelir.

 

Heb amheuaeth, mae'r Fenter Brecwast am Ddim mewn Ysgolion Cynradd, a gafodd ei chyflwyno ym mis Medi 2004 gan Lywodraeth Cymru, wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Yn ôl y Papur Gwyn, mae 71% o'r ysgolion yn rhan o'r fenter ar hyn o bryd (mae 87% o'r ysgolion yn rhan o'r fenter mewn rhai o'r awdurdodau). Mae hyn yn golygu bod cyfran sylweddol o ysgolion cynradd yn manteisio ar y ddarpariaeth hynod bwysig hon.

 

Mae'n debyg nad yw'r cynigion, sydd wedi'u nodi ym mharagraffau A–Dd, yn codi unrhyw faterion negyddol ymhlith ein haelodau.

 

Y prif fygythiad i'r ddarpariaeth hon yw'r cynnig i ddod â'r Grant Penodol i ben a'i drosglwyddo i'r Grant Cynnal Refeniw fel rhan o'r Setliad Llywodraeth Leol. Rydyn ni'n derbyn y byddai trosglwyddo'r cyllid i'r Grant Cynnal Refeniw, gyda deddfwriaeth yn sail iddo, yn lleihau'r fiwrocratiaeth o ran cynnal y cynllun grantiau yn achos yr awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.

 

Mae aelodau o Gymdeithas Arlwywyr yr Awdurdodau Lleol yn pryderu am y cynnig i drosglwyddo'r cyllid heb yr un lefel â grant wedi'i neilltuo.

 

Yn Lloegr, mae'r penderfyniad i beidio â neilltuo'r Gronfa Cinio Ysgol eisoes wedi golygu bod y gwasanaeth prydau ysgol wedi colli cyfran uchel o'r cyllid a ddylai, yn ôl rhai, gael ei ddefnyddio er mwyn parhau i ddarparu prydau iachus, maethlon a blasus i ddisgyblion mewn ysgolion gwladol.

 

Mae aelodau o Gymdeithas Arlwywyr yr Awdurdodau Lleol yng Nghymru o'r farn y byddai peidio â neilltuo'r ddarpariaeth yn golygu y byddai nifer yr ysgolion sy'n cymryd rhan yn y fenter brecwast am ddim yn lleihau'n sylweddol neu, yn yr achos gwaethaf posibl, byddai'r ddarpariaeth yn diflannu. Dyma rai o'r canlyniadau cadarnhaol ers cyflwyno'r fenter brecwast am ddim:-

 

·           Dydy'r rhan fwyaf o'r disgyblion hyn ddim yn cael brecwast gartref. Mae'r brecwast am ddim yn yr ysgol wedi datblygu i fod yn wasanaeth hanfodol ar gyfer miloedd o ddisgyblion.

·           Yn ôl gwaith ymchwil, mae plant sy'n bwyta brecwast yn dysgu ac yn canolbwyntio yn fwy effeithiol mewn gwersi. Mae hefyd yn cyfrannu at ymddygiad gwell yn yr ystafell ddosbarth.

·           Mewn nifer o deuluoedd, mae'r ddau riant yn gweithio. Mae darparu brecwast yn yr ysgol wedi cyfrannu at sicrhau bod disgyblion mewn mannau diogel a gofalgar.

·           Mae Clybiau Brecwast wedi datblygu i fod yn adnoddau addysgiadol ychwanegol wrth i'r disgyblion ddysgu bod eisiau iddyn nhw fwyta deiet cytbwys ac iach, gyda'r gobaith y byddan nhw'n tyfu i fod yn oedolion iach. Mae hyn yn bwysig ar gyfer eu dyfodol ac yn golygu y bydd llai o bwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol pan fyddan nhw'n hŷn.

·           Yn anffodus, mae nifer o blant difreintiedig yn mynychu ysgolion cynradd. Mae cael brecwast yn yr ysgol yn golygu eu bod nhw'n bwyta pryd da o fwyd ar ddechrau'r diwrnod ac mae hyn, hefyd, o gymorth o ran dod ar draws unrhyw broblemau penodol.

·           Mae'n ffaith gyfarwydd nad yw rhai disgyblion yn eistedd wrth fwrdd, yn cymdeithasu nac yn defnyddio cyllell a fforc wrth fwyta eu bwyd gartref. Mae'r ddarpariaeth wedi rhoi cyfle iddyn nhw ddysgu moesgarwch wrth y bwrdd a chyfle i gymdeithasu gyda'u cyd-ddisgyblion.

·           Mae'r fenter brecwast am ddim wedi darparu swyddi rhan-amser i nifer fawr o bobl (menywod, yn benodol). Mae'r rhan fwyaf o'r aelodau hyn o staff yn cael eu cyflogi ar gyfer y cynllun hwn yn unig. Pe bai'r galw yn gostwng yn sylweddol, byddai'n golygu y bydd swyddi yn cael eu colli a bydd eisiau gwneud taliadau dileu swydd. Mewn un awdurdod lleol, er enghraifft, mae 98 o'r 127 o ysgolion cynradd yn cymryd rhan yn y fenter brecwast am ddim. Mae 380 o aelodau o staff yn cael eu cyflogi ar gyfer clybiau brecwast yn unig.

Ariannu yn y dyfodol

 

Yn y Papur Gwyn, does dim sôn am fecanwaith i gynyddu'r cyllid ar gyfer yr awdurdodau yn ystod y blynyddoedd nesaf. Dydy'r cyflog sy'n cael ei dalu i aelodau o staff fesul awr, na chostau bwyd, ddim wedi cynyddu ers peth amser.

 

Mae eisiau i'r Ffi Weinyddu, sy'n cael ei thalu i'r awdurdodau lleol ar hyn y bryd, gael ei chynnwys yn y ddirprwyaeth. Mae eisiau eglurhad yn y manylion.

Codi taliadau hyblyg am brydau ysgol

Y cynigion:

 

a.     Diddymu adrannau 512ZA(2) a 533(4) o Ddeddf Addysg 1996 i roi rhyddid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir godi pris gwahanol ar wahanol bersonau am yr un swm o laeth, prydau a lluniaeth arall.

Yn gyffredinol, mae aelodau o Gymdeithas Arlwywyr yr Awdurdodau Lleol yng Nghymru o blaid yr egwyddor o daliadau hyblyg am brydau ysgol, ond maen nhw'n pryderu am rai o'r cynigion.

 

i.      Gostwng prisiau prydau am gyfnod penodol ar gyfer plant newydd mewn ysgolion plant bach, iau a chynradd;

Mae eisiau ystyried unrhyw fenter sy'n ceisio cynyddu nifer y disgyblion sy'n bwyta prydau ysgol fel cam cadarnhaol, ac mae manteision i'r syniad o gyflwyno taliadau hyblyg. Rydyn ni'n gadarn o blaid y cynnig i fod â'r gallu i ostwng prisiau prydau am gyfnod penodol ar gyfer plant newydd mewn ysgolion plant bach, iau a chynradd.

 

Yn y gorffennol, mewn rhai awdurdodau lleol, roedd polisi o godi taliadau hyblyg yn ôl ystod oedrannau, hynny yw, prisiau is ar gyfer plant bach mewn ysgolion cynradd a phrisiau uwch pan oedd y disgyblion yn mynd i'r ysgol uwchradd. Ar y llaw arall, mewn awdurdodau lleol eraill, roedd prisiau'r prydau ysgol yn gyson drwy gydol cyfnod y disgyblion yn yr ysgol. Y rhesymeg y tu ôl i hyn oedd bod disgyblion yn derbyn prydau ysgol drwy gydol eu cyfnod yn yr ysgol, felly, roedd y system yn deg.

 

a.     Prisiau is ar gyfer dosbarthiadau derbyn ac, o bosibl, dosbarthiadau babanod. Yn ôl aelodau o Gymdeithas Arlwywyr yr Awdurdodau Lleol, byddai'n bosibl i'r opsiwn hwn gynnwys prydau o fwyd a fyddai ychydig yn llai. Mae'n deg dweud nad yw plant bach, rhwng 4 a 5 oed, yn bwyta cymaint â disgyblion hŷn, rhwng 10 ac 11 oed. Yn ein barn ni, byddai hyn yn gwneud fawr o wahaniaeth i gydbwysedd y cymeriant maethol sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad, Blas am Oes. Byddai prisiau is ar gyfer dosbarthiadau derbyn, yn ystod y flwyddyn gyntaf yn yr ysgol, yn eu hannog nhw i fynd i'r arfer o fwyta prydau ysgol iachus ar ddechrau eu cyfnod yn yr ysgol ac yn gosod patrwm ar gyfer y dyfodol.

b.     Byddai taliadau hyblyg yn ei gwneud hi'n bosibl i'r awdurdodau lleol ddarparu cynigion arbennig, yn enwedig cynigion arbennig megis “prynu pedwar, cael un am ddim” er mwyn annog y disgyblion i archebu prydau drwy gydol yr wythnos, yn hytrach nag ar ddiwrnodau cinio rhost neu sglodion yn unig!

 

ii.     Gostwng prisiau prydau ar gyfer teuluoedd lle mae mwy nag un plentyn eisiau prydau ysgol.

Mae'n werth nodi bod strwythur a chyfundrefn byd addysg ac ysgolion yng Nghymru yn wahanol i Loegr. Does dim academïau nac ysgolion rhydd yng Nghymru ac, ar hyn o bryd, dydy cyllidebau'r ysgolion cynradd ddim wedi'u dirprwyo i'r ysgolion. Rydyn ni'n ymwybodol o'r posibilrwydd y gall hyn ddigwydd yn y dyfodol. Mae prydau ysgol, hefyd, yn cael eu darparu gan “ddarparwyr mewnol” sy'n cael eu cyflogi yn uniongyrchol gan 20 o awdurdodau lleol. Mae dau gytundeb wedi'u dyfarnu i gontractwyr preifat, ac mae'r rheini yn Ynys Môn a Chasnewydd. Mae'r trefniadau presennol ar gyfer ysgolion uwchradd yn amrywio ar draws Cymru; mae'n debyg bod y rhan fwyaf o'r ysgolion yn parhau i ddefnyddio darparwyr mewnol yr awdurdodau lleol.

 

Fel sydd wedi'i nodi yn y Papur Gwyn, yn ôl y gyfraith ar hyn o bryd, mae disgwyl i ysgolion ac awdurdodau lleol godi'r un pris am yr un pryd o fwyd. Byddai'r newid hwn yn golygu y bydd hi'n bosibl i ysgolion godi prisiau gwahanol ar grwpiau gwahanol o blant am yr un pryd o fwyd. Dydy hyn ddim yn dilyn y Ddeddf Cydraddoldeb ac mae'n gwahaniaethu.

 

Byddai'n haws i'r ysgolion gynnig prisiau is; byddai'n bosibl defnyddio hyn i helpu teuluoedd sydd ar incwm ac sydd â mwy nag un plentyn yn yr ysgol. Mae aelodau o Gymdeithas Arlwywyr yr Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn pryderu'n fawr am ba mor ymarferol mae'r cynnig hwn, ynghyd â'r goblygiadau ariannol a'r gwaith monitro. Mae pryderon hefyd wedi codi ynglŷn â'r diffiniad o deulu.

 

·      Ai'r Awdurdod Lleol neu Bennaeth yr ysgol fydd yn penderfynu pwy ddylai derbyn prydau rhatach?

·      Rydyn ni i gyd wedi treulio blynyddoedd yn ceisio amddiffyn y rheiny sy'n cael hawlio prydau ysgol am ddim rhag cael eu hadnabod.

·      Fydd hyn yn creu grŵp arall o blant y bydd eisiau eu hamddiffyn rhag gwarthnod cymdeithasol?

·      O ble bydd yr arian yn dod er mwyn talu am y gwahaniaeth o ran y gost a'r prisiau is i'r rhieni, yn enwedig ar adeg lle mae disgwyl i awdurdodau lleol leihau eu gwariant cyffredinol?

·      Mae'n bosibl y bydd codi prisiau is i rai rhieni ond nid eraill arwain at anawsterau lleol, yn enwedig mewn cymunedau bychain yng nghefn gwlad. Mae eisiau strwythuro system er mwyn sicrhau tegwch wrth benderfynu rhoi hawl i deuluoedd dderbyn prydau ysgol rhatach.

·      Pwy fydd yn gyfrifol am weinyddu'r cynnig hwn?

Mae Llywodraeth Cymru, drwy'r ymgynghoriadau hir a'r cynlluniau peilot mae hi wedi eu cynnal wrth gyflwyno “Blas am Oes”, wedi dangos ei bod hi'n benderfynol o roi ystyriaeth i'r holl faterion er mwyn sicrhau cyfraith ymarferol. Mae Cymdeithas Arlwywyr yr Awdurdodau Lleol yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun peilot mewn awdurdod lleol cynrychiadol ac ychydig o ysgolion er mwyn asesu'r effaith, y gost a'r pethau ymarferol cyn i'r rhan hon o'r bil gael ei gwneud yn gyfraith.

 

b.     Diwygio adrannau 512ZA a 533 i rwystro ysgolion ac awdurdodau lleol rhag codi mwy ar ddisgyblion na'r gost o ddarparu llaeth, prydau neu luniaeth arall iddynt.

Esboniad: Ar hyn o bryd, nid oes terfyn ar y swm y gellir ei godi ar ddisgybl. Rydym am osgoi sefyllfa lle byddai un grŵp o ddisgyblion yn talu pris uwch am bryd ysgol er mwyn gwneud iawn am godi pris is ar grŵp arall o ddisgyblion. Byddai'r ddarpariaeth hon yn golygu na chaiff awdurdodau lleol ac ysgolion godi pris sy'n uwch na'r gost o ddarparu'r pryd.

 

Yn fras, mae Cymdeithas Arlwywyr yr Awdurdodau Lleol o blaid y cynnig hwn o ran peidio â chodi prisiau uwch ar ddisgyblion na'u rhieni er mwyn gwneud iawn am godi pris is ar grŵp arall o ddisgyblion. Yn ôl ein hymgynghoriad, mae'n debyg bod ein cydweithwyr wedi dehongli'r cynnig hwn mewn ffyrdd gwahanol. Ydy'r cynnig yn golygu codi prisiau is ar ddisgyblion y mae eu rhieni ar incwm isel?

 

Mae materion o ran ysgolion gwledig bychain wedi codi oherwydd mae cyfanswm eu costau cynhyrchu yn uwch na'r costau cynhyrchu mewn ysgolion mwy mewn trefi. Pe bai'r cyllid yn cael ei ddirprwyo, a phe bai'r prisiau yn cael eu gosod gan yr ysgolion, mae'n bosibl y bydd gwahaniaeth o ddwy bunt rhwng yr ysgol ddrutaf a'r ysgol rataf. Mae Cymdeithas Arlwywyr yr Awdurdodau Lleol, felly, yn awgrymu bod eisiau mynd i'r afael â'r costau uwch o ran darpariaeth mewn ysgolion gwledig oherwydd, yn y bôn, mae'n bosibl y bydd dehongliad llym o'r cynnig hwn yn arwain at gynnydd enfawr mewn prisiau mewn ysgolion gwledig bychain.

 

Rydyn ni'n argymell bod eisiau newid y geiriad o ran diwygio 512ZA a 533 er mwyn egluro ystyr “[y] gost o ddarparu llaeth, prydau neu luniaeth arall”. Mae eisiau i'r gost o gynhyrchu prydau ysgol gynnwys bwyd, llafur uniongyrchol, rheolaeth, cynnal a chadw a darnau newydd o offer, ac argostau canolog. Rydyn ni'n awgrymu ychwanegu'r gair “cyfanswm” cyn y gair “cost” er mwyn gwneud y mater yn fwy eglur.

 

Crynodeb

Mae aelodau o Gymdeithas Arlwywyr yr Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn gofyn yn barchus i Lywodraeth Cymru roi ystyriaeth i'r materion sydd wedi'u nodi yn yr ymateb hwn, ynghyd â'r argymhellion canlynol:-

 

Y fenter brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd

Rydyn ni o blaid dirprwyo'r Grant Penodol i'r awdurdodau lleol. Rydyn ni'n annog Llywodraeth Cymru i neilltuo'r grant hwn i'w ddefnyddio ar gyfer brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd yn unig.

 

Codi taliadau hyblyg am brydau ysgol

i.      Rydyn ni wedi nodi ein pryderon ynglŷn â'r cynnig i ostwng prisiau prydau ar gyfer teuluoedd lle mae mwy nag un plentyn eisiau prydau ysgol.

Gofynnwn i chi roi ystyriaeth fanwl i sefydlu cynllun peilot mewn un neu ragor o awdurdodau lleol cyn cyflwyno'r cynnig hwn. Byddai hyn yn gyfnod prawf ar gyfer ymarferoldeb y newid hwn a'r dull o'i weinyddu.

 

ii.     Gofynnwn fod y newid isod yn darllen fel hyn:-

Diwygio adrannau 512ZA a 533 i rwystro ysgolion ac awdurdodau lleol rhag codi mwy ar ddisgyblion na chyfanswm y gost o ddarparu llaeth, prydau neu luniaeth arall iddynt er mwyn osgoi gwneud iawn am godi pris is ar ddisgyblion y mae eu rhieni yn derbyn incwm isel.

 

I gloi, mae aelodau o Gymdeithas Arlwywyr yr Awdurdodau Lleol o blaid y rhan fwyaf o'r cynigion gyda'r sawl amheuaeth sydd wedi'u nodi yn ein hymateb. Rydyn ni o'r farn fod ychydig o amwyseddau a fyddai'n gallu cael eu camddehongli ac mae eisiau eu gwella. Rydyn ni'n argymell yn gryf bod cynllun peilot yn cael ei gynnal cyn i'r cynigion gael eu gwneud yn gyfraith.

 

Os oes unrhyw faterion rydych chi eisiau eu trafod, neu gael eglurhad ohonynt, mae croeso i chi gysylltu â ni.

 

 

 

Anne Bull

LACA Welsh Region Chair

 

Manylion cyswllt:

RCT Catering Services, RCT CBC,Tŷ Trevithick,Abercynon,CF45 4UQ

 

Ffôn: 01443 744155

 

E-bost: p.fellows@btinternet.com